Lleoliad y cyfarfod:
Siambr Hywel - Tŷ Hywel
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth,
11 Tachwedd 2025
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/15434
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr Hywel, Tŷ Hywel ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.28
Gofynnwyd cwestiynau 1 i 2 a 4 i 5. Ni ofynnwyd cwestiwn 3. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.56
Dechreuodd yr eitem am 15.18
Dechreuodd yr eitem am 15.57
Dechreuodd yr eitem am 16.39
NDM9036 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd parhaus cyfnod y Cofio i deuluoedd a chymunedau yng Nghymru, ac eleni rydym yn coffáu 80 mlynedd ers Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop (VE) a Diwrnod Buddugoliaeth dros Japan (VJ).
2. Yn talu teyrnged i wasanaeth ac aberth unigolion o bob cwr o Gymru sy'n gwasanaethu nawr neu sydd wedi gwasanaethu yn ein lluoedd arfog.
3. Yn cydnabod gwaith diflino sefydliadau, unigolion a gwirfoddolwyr sy'n cefnogi cymuned ein lluoedd arfog a chyn-filwyr ledled Cymru.
4. Yn cefnogi'r angen i ymdrechu i gael datrysiad heddychlon i bob gwrthdaro a rhoi terfyn ar ryfel, gan nodi'r ansicrwydd yn y byd sydd ohoni.
5. Yn cofio pawb sydd wedi colli eu bywydau mewn rhyfeloedd a gwrthdaro, gan gynnwys sifiliaid a gafodd eu hanafu a'u lladd.
Cyd-gyflwynwyr
Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar eitemau 7-8 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân.
Dechreuodd yr eitem am 17.23
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM9038 Huw Irranca-Davies AS (Ogwr)
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru).
Gosodwyd Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 2 Mehefin 2025; gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar Fil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) gerbron y Senedd ar 24 Hydref 2025.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
50 |
0 |
1 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 17.23
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM9039 Huw Irranca-Davies AS (Ogwr)
Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
50 |
0 |
1 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.44, canwyd y gloch am 18.31 a gohiriwyd y cyfarfod tan y cyfnod pleidleisio.
Dechreuodd yr eitem am 18.36
Daeth y cyfarfod i ben am 18.38
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 12 Tachwedd 2025